Yr hyn sydd yn y pris
Efallai y buasai’n haws dweud beth sydd ddim!
Ond, i fod o ddifrif, dyma flwyddyn gynta’r ras. Rydw i’n siŵr y bydd y ras yn brofiad anhygoel, arbennig o drefnus mewn awyrgylch unigryw. Mae o hefyd yn gyfle i chi fod yn un o gystadleuwyr cyntaf ras Ultra o safon fyd-eang.
Dyma fyddwch chi’n ei gael:
- Cystadlu yn y ras
- Sglodyn amseru ‘Sportident’
- Map o lwybr y daith
- Lle i wersylla am ddwy noson
- 7 gorsaf rheoli efo bwyd, diod ac ati
- Pryd da o fwyd ar ôl gorffen
- Medal am gwblhau’r cwrs
- Pensgarff amlddefnydd Eryri 50
- Rydw i’n gobeithio y bydd pob math o bobl garedig yn rhoi stwff y galla i ei roi i’r cystadleuwyr (os ydach chi’n nabod rhywun a fuasai’n fodlon helpu felly, cyfeiriwch nhw ata’ i)
- … ac os ydach chi’n ennill mae yna ffon fugail mynydd Cymreig ar eich cyfer.